Mae’r ffotomarathon yn ei hôl!

Penwythnos
23 Hydref 2021

Themau

Agos / Near
Gwyrdd / Green
Ble ydw i/ Where am I
Un byd/ One World
2
Gwag / Empty
Ffurflen Gyflwyno

Mae’r ffotomarathon rithiol yn ei hôl.

Y nod unwaith eto yw

tynnu chwe llun,

ar chwe thema

dros gyfnod o chwe awr.

Cynhelir y ffotomarathon ddydd Sadwrn, 23 Hydref a bydd pedwar categori sef

oed cynradd,

oed uwchradd

agored,

ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, categori arbennig i fyfyrwyr y coleg ger y lli.

Cynigir gwobr am y set orau ymhob categori ac am y llun gorau ymhob thema.

A’r beirniad fydd y ffotograffydd profiadol Marian Delyth.

Caiff pob llun eleni ei arddangos yn Oriel Gregynog yn  y Llyfrgell Genedlaethol ond nifer cyfyngedig o gystadleuwyr all gymryd rhan felly peidiwch ag oedi.

 

Os ydych chi am gystadlu a wnewch chi gofrestru drwy anfon eich enw, ebost, rhif ffôn a nodi categori at ffotomarathon@gmail.com   Cyn deg o’r gloch nos Iau 21 Hydref 2021.

Rheolau ac Amodau

OED CYNRADD

<11

OED UWCHRADD

11-18

AGORED

18+