Rheolau ac Amodau Ffotomarathon FfotoAber Hydref 2020
1. Mae Ffotomarathon FfotoAber Hydref 2020 yn ddigwyddiad digidol. Gellir cymryd rhan gyda chamera digidol neu ffôn symudol.
2. Bydd rhaid tynnu 6 llun ar 6 thema, yn y drefn mae’r themau yn cael eu rhyddhau, hynny ydi, thema 1 fydd y llun cyntaf.
3. Bydd tri categori cystadlu – oed cynradd (11 ac iau), oed uwchradd (12-18), agored (19 oed a hýn)
4. Rhaid tynnu pob llun yn ystod Ffotomarathon FfotoAber a gynhelir ar benwythnos 24, 25 Hydref 2020
5. Rhaid tynnu pob llun yn unol â’r cyfyngiadau sydd ar waith yn eich ardal ar y dyddiad dan sylw.- yng Nghymru mae hynny’n golygu aros yn agos i adref.
6. Caiff themau eu rhyddhau fel a ganlyn – tair thema am 10 y bore Sadwrn a tair thema am 10 fore Sul a byddant yn cael eu rhyddhau ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol FfotoAber
7. Dylid uwchlwytho eich chwe llun (a chwe llun yn unig, ac yn nhrefn y themau) rhwng 3 a 6 bnawn Sul. Ni fydd yn bosib uwchlwytho lluniau cyn 3 o’r gloch bnawn Sul na chwaith ar ôl chwech o’r gloch nos Sul.
8. Er mwyn uwchlwytho byddwn yn anfon y wybodaeth briodol ar gyfer pob cystadleuydd, wedi iddyn nhw gofrestru
9. Y ffotograffydd fydd berchen ar hawlfraint y lluniau a dynnwyd, fodd bynnag fe fydd gan FfotoAber yr hawl i arddangos a chyhoeddi’r lluniau fel rhan o’r gystadleuaeth ac er budd hybu’r Ffotomarathon a Gwyl FfotoAber heb unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a hynny ar unrhyw blatfform – gwefan, cyfryngau cymdeiathasol ayyb
10. Y mae pawb sy’n cystadlu yn gwneud hynny ar ei risg ei hunain.
11. Cynigir gwobr am y llun unigol gorau ymhob thema ac am y set o chwe llun gorau ymhob categori.
12. Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth ac i gwmniau Gelert, Unigryw, Four Cymru am eu cefnogaeth.